Vhiper2

Cynadleddau a Symposia

Troseddegwyr PDC yn Cynnal Symposiwm Rhyngwladol


Leverhulme

Ar 13 a 14 Mai 2019, cynhaliodd yr Athro Fiona Brookman a Dr Helen Jones Symposiwm ‘Ymchwiliad i Ddynladdiad a Gwyddoniaeth Fforensig’ (HIFS) yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad yn dilyn astudiaeth gydweithredol pedair blynedd o'r defnydd o wyddorau fforensig a thechnolegau wrth ymchwilio i ddynladdiad ym Mhrydain (a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme). Mynychwyd Symposiwm HIFS gan grŵp dethol o academyddion blaenllaw, ymarferwyr a llunwyr polisi o bob rhan o’r DU ac Ewrop, gydag arbenigedd ym meysydd ymchwilio i ddynladdiad, gwyddoniaeth fforensig a thechnoleg ddigidol. 

Dros y digwyddiad diwrnod a hanner, clywodd y cynadleddwyr gyflwyniadau yn ymwneud ag ymddiriedaeth, drwgdybiaeth a rhwystrau i gydweithio effeithiol ymhlith ditectifs a gwyddonwyr, rôl gwyddoniaeth fforensig wrth ddiarddel unigolion diniwed yn euog yn UDA, cymhlethdodau mesur y 'gwerth' gwyddoniaeth fforensig, ac anawsterau adalw ac archwilio data digidol. Dilynwyd pob un o'r cyflwyniadau gan sesiynau trafod ysgogol lle nododd y grŵp heriau enbyd o ran ymchwilio i droseddau mawr a darpariaeth gwyddoniaeth fforensig a bylchau mewn gwybodaeth. Mae cynlluniau ar y gweill i gydweithio â llawer o’r academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop a fynychodd y Symposiwm ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein hymchwil gyda’r partneriaid newydd hyn.