24-11-2023
Mae Diana Fologea a anwyd yn yr Eidal yn astudio PhD Troseddeg rhan-amser ar thema cam-drin domestig.
Credaf fod ymchwil yn meddu ar y pŵer i ddylanwadu’n uniongyrchol ac yn ddwys ar fywydau pobl y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
Mae fy ymchwil PhD yn gwerthuso'r rhaglen Ysbrydoli Teuluoedd, asesiad teulu cyfan ar gyfer cyplau heterorywiol sydd â hanes o gam-drin domestig. Y nod yw darparu sylfaen dystiolaeth i gefnogi teuluoedd y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt yn y ffordd orau bosibl.
Yn wahanol i'r dull traddodiadol sy'n canolbwyntio ar y goroeswyr a'r plant, mae dull teuluol cyfan o gam-drin domestig yn ystyried y teulu cyfan fel uned gymhleth.
Mae'n golygu gweithio gyda phob aelod o'r teulu, gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am y gamdriniaeth, ac yn hytrach na'u dieithrio o'r teulu, mae'n ceisio newid y ddeinameg fel y gall y teulu ryngweithio'n ddiogel.
Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar sefydlu newidiadau cadarnhaol parhaol ac mae'n cydnabod efallai na fydd bob amser orau i blentyn os yw ei rieni'n gwahanu.
Mae hefyd yn cydnabod nad yw torri'r cysylltiad rhwng y camdriniwr a'r dioddefwr bob amser yn mynd i'r afael â'r problemau hirdymor o fewn y teulu.
Yn bwysicaf oll, mae'n credu, pan fydd pawb yn y teulu yn cael cymorth yn lle ynysu aelodau penodol - fel y tramgwyddwyr - y gall y berthynas rhwng rhieni wella, ynghyd â'u sgiliau rhianta, yn enwedig sgiliau rhianta'r un a achosodd niwed. Gall y gwelliant mewn rhianta bara hyd yn oed os bydd y berthynas yn dod i ben.
Er bod cerrig milltir wedi'u cyflawni yng Nghymru a Lloegr yn ystod y degawd diwethaf ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig a'u plant, mae digonedd o botensial o hyd i atal cam-drin domestig rhag digwydd, ond hefyd i sicrhau bod cefnogaeth wedi'i theilwra yn hygyrch i bob aelod o'r teulu pan fydd yn digwydd, gan eu helpu i dorri'n rhydd o'r cylch cam-drin.
Drwy gynnal ymchwil i’r 'ffordd orau o gefnogi', gall teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig, ymchwilwyr, llunwyr polisïau a sefydliadau arbenigol weithio gyda'i gilydd i baratoi'r ffordd ar gyfer cyd-gynhyrchu ymyriadau, polisïau a systemau cymorth mwy effeithiol i'r rhai mewn angen.
Yn y pen draw, gall hyn wella lles a diogelwch unigolion a theuluoedd, yn enwedig plant, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol yn eu bywydau.
Drwy astudio Troseddeg, rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o'r cysylltiadau cryf rhwng Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma yn gyffredinol ar iechyd a lles plant, ac ar y tebygolrwydd y byddant yn cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol. Felly mae helpu i leihau cam-drin domestig a'i effeithiau yn helpu'r rhai sy'n ymwneud â gwella eu bywydau eu hunain a gall hefyd helpu i gryfhau eu cymunedau.
Ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, hoffwn i bob menyw a merch deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, eu gweithleoedd, yn y gymuned ac mewn mannau cyhoeddus. Rwy’n gobeithio am newid diwylliannol trawsnewidiol sy'n herio gwenwyndra gwrywdod traddodiadol ac sy'n hyrwyddo gwrywdod iach, gan feithrin diwylliant o barch, empathi, a chydraddoldeb sy'n cefnogi diwylliant lle mae dynion a menywod yn ffynnu. Yn olaf, hoffwn weld cymdeithas lle mae pob llais, waeth beth fo'u rhyw, yn cael ei glywed, ei barchu a'i werthfawrogi heb wahaniaethu.
Nid oedd cychwyn ar PhD yn rhywbeth yr oeddwn erioed wedi'i ddychmygu. Yn yr ysgol, cefais fy mwlio a'm hystyried yn araf a diog, a chafodd hyn effaith fawr ar fy hyder. Dim ond pan ddes i i PDC y cefais ddiagnosis o ddyslecsia.
Mae fy mhrofiad yma wedi bod yn anhygoel. Mae'r Brifysgol wedi bod yn hynod gefnogol ac oherwydd hyn rwyf wedi gallu symud ymlaen o radd israddedig i ymchwil ôl-raddedig.
Mae PhD nid yn unig yn dasg academaidd ond yn daith ddwys o newid cadarnhaol a darganfod personol.
Er mai dim ond yn ail flwyddyn PhD rhan-amser ydw i, mae'r daith hon wedi bod yn hynod drawsnewidiol o ran datblygu meddwl beirniadol yn ogystal â gwella fy sgiliau wrth gynnal ymchwil gyda charfannau sensitif fel goroeswyr cam-drin domestig a phlant.
Mae'n fy llenwi ag ymdeimlad dwfn o foddhad bod gen i'r potensial i wneud cyfraniad cymedrol ond a allai fod yn ystyrlon i wella bywydau goroeswyr cam-drin domestig a'u plant yng Nghymru ac yn ehangach, ac mae hyn yn tanio fy angerdd ac ymrwymiad i barhau â'r daith hon. Rwy'n credu y byddai’r plentyn yr oeddwn yn falch iawn o hynny.
Tîm goruchwylio Diana: Yr Athro Kate Williams; Dr Sarah Wallace; Dr Joanna Roberts
24-11-2023
23-03-2023
01-03-2023