Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd 2023: Mae'r dystiolaeth ar gyfer pa mor greulon yw masnach a masnachu bywyd gwyllt ar gyfer anifeiliaid yn helaeth

Rhinoceros Black - African Power and Endangerd Species  GettyImages-177827446(1)



"Mae'r dystiolaeth ar gyfer pa mor greulon y gall masnach a masnachu bywyd gwyllt fod ar gyfer yr anifeiliaid dan sylw yn helaeth. Mae Rhinoserosiaid yn ochain pan fyddan nhw wedi cael eu saethu'n anghyfreithlon fel bod modd torri eu cyrn i ffwrdd, mae eu plant yn cael eu meingefnau wedi'u torri gyda machete neu'n cael eu cymryd yn gaeth. Mae nadroedd yn cael eu pwmpio'n llawn dŵr a'u llwgu am ddyddiau cyn i’w croen gael ei flingo tra byddant yn dal yn fyw ar gyfer y diwydiant lledr ymlusgiaid cyfreithiol. Mae amrannau adar yn cael eu pwytho ar gau ac yna'n cael eu stwffio i diwbiau i'w smyglo ar draws pellteroedd hir, yn cynnwys dyddiau heb fwyd a dŵr. Mae bywyd gwyllt yn cael eu gadael mewn maglau a thrapiau i farw'n araf o gael eu hamlygu, dadhydradu, a/neu newynu." *


Mae biliynau o fywyd gwyllt, o'r ystod gyfan o rywogaethau, yn cael eu lladd a'u dal bob blwyddyn fel rhan o'r masnachau bywyd gwyllt cyfreithiol ac anghyfreithlon byd-eang. Amcangyfrifir ei bod yn un o'r marchnadoedd tywyll byd-eang mwyaf, mae'r fasnach bywyd gwyllt anghyfreithlon yn cynnwys dal, cynaeafu a masnachu anifeiliaid gwyllt a phlanhigion yn groes i ddeddfau cenedlaethol. Mae masnach anghyfreithlon yn difetha bioamrywiaeth, yn cynyddu trosglwyddiad clefydau sŵotig (e.e., COVID-19) ac yn effeithio'n negyddol ar fywydau a bywoliaethau'r bobl hynny sy'n byw gyda'r bywyd gwyllt ac yn agos iddi.


Yn bwysig, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cydnabod anifeiliaid fel dioddefwyr ymyrraeth lles yn y fasnach gyfreithiol ac fel dioddefwyr masnachu. Dylem hefyd gydnabod gallu bywyd gwyllt i ddioddef niwed megis amddifadedd rhyddid, ymddygiadau naturiol, a chymdeithasau, a thrwy wella lles, ein bod yn gwella bywydau dynol. Wrth wneud hynny, mae cyfiawnder rhywogaethau yn bosibl, os caiff ei gyfuno â rheoleiddio a gorfodi effeithiol sy'n darparu amddiffyniad unigol a systemig i bob anifail.


* Wyatt, T., Maher, J., Allen, D. et al. The welfare of wildlife: an interdisciplinary analysis of harm in the legal and illegal wildlife trades and possible ways forward. Crime Law Soc Change 77, 69–89 (2022). https://doi.org/10.1007/s10611-021-09984-9



Ynglŷn â


Dr Jenny_Maher CriminologyMae Dr Jennifer Maher, Athro Cyswllt mewn Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru, yn arbenigo mewn ymchwilio i droseddau amgylcheddol, astudiaethau dynol-anifeiliaid a thrais ac erledigaeth ieuenctid rhyngbersonol. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar gam-drin anifeiliaid, y fasnach anifeiliaid anwes anghyfreithlon a throseddau bywyd gwyllt, drwy ddenu cyllid ar gyfer ei hymchwil gan yr UNODC, y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop, Llywodraethau'r Alban a'r DU, Heddlu De Cymru a'r RSPCA. Gofynnir am ei harbenigedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys cwblhau adolygiad Pecyn Cymorth ICCWC y Cenhedloedd Unedig o ymateb y DU i Droseddau Bywyd Gwyllt a Choedwigoedd, gwerthusiad Llywodraeth Cymru o rôl Cydlynydd Bywyd Gwyllt a Throseddau Cefn Gwlad a Chwmpasu Llywodraeth yr Alban o Fasnach Cŵn Bach Anghyfreithlon y DU.