19-09-2022
Yn ddiweddar, gwahoddwyd yr Athro Fiona Brookman gan Heddlu Ymchwiliol Chile(Policía de Investigaciones de Chile, PDI) i gyflwyno yn yr Uwchgynhadledd Ryngwladol ar Droseddu Cyfundrefnol.
Roedd yr Uwchgynhadledd yn canolbwyntio ar arloesi a heriau newydd troseddu cyfundrefnol trawswladol, a chafodd ei chynnal yn Ysgol Ymchwiliadau’r Heddlu yn Santiago, Chile dros ddau ddiwrnod (24ain a 25ain o Awst, 2022).
Mynychodd dros 350 o bobl yr Uwchgynhadledd yn bersonol gan gynnwys heddlu, erlynwyr, swyddogion heddlu yn rhanbarth America Ladin, a chafodd y digwyddiad ei ffrydio'n fyw hefyd i tua 13,000 o bersonél PDI yn Chile a'r 18 gwlad lle mae gan PDI dditectifs (gan gynnwys Gogledd America, Asia a Ewrop).
Siaradodd yr Athro Brookman am 'Arloesi mewn Ymchwiliad i Laddiadau yn y DU' gan gynnwys rôl gynyddol gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ymchwiliadau, manteision a chostau rhai mathau o arloesi (fel technoleg adnabod wynebau), gwerth prosesau adolygu a phwysigrwydd cyfreithlondeb yr heddlu i ganlyniadau ymchwiliol llwyddiannus.
Denwyd cyflwynwyr eraill o Awstralasia, De America, Ewrop, Gogledd America a’r Dwyrain Canol, gan ddarparu fforwm i drafod yr heriau o fynd i’r afael â throseddu cyfundrefnol a galluogi rhannu arfer gorau mewn ymchwiliadau heddlu.
Cymerodd Fiona ran hefyd mewn trafodaeth banel, cafodd ei chyfweld gan gyfryngau lleol yn Chile a chymerodd ran mewn cyfweliad ‘cerdded’ gyda Bernard Rix ar gyfer Policing TV, fel rhan o’i Daith Cyfeillgarwch Plismona.
19-09-2022
18-07-2022
01-07-2022
26-05-2022
09-05-2022
02-02-2022
01-02-2022