01-07-2022
Bydd astudiaeth newydd yn helpu'r heddlu i weithio ar achosion unigolion coll a ystyrir wedi'u llofruddio.
Ariennir y prosiect, 'Missing-Murdered: Identifying Vulnerabilities and Risk Factors', dan arweiniad Dr Cheryl Allsop a Dr Helen Jones o'r Academi Achosion Oer, gan Gronfa STAR y Swyddfa Gartref a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2023.
Mae'n ceisio deall elfennau cyffredin a nodweddion i gynorthwyo swyddogion heddlu rheng flaen i liniaru yn erbyn yr heriau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chydnabod ac ymateb i ddynladdiad mewn ymchwiliadau unigolion coll.
Bydd hyn yn galluogi'r heddlu i adnabod y sbardunau a allai ddynodi dynladdiad wrth ddelio ag adroddiadau unigolyn coll
Mae Dr Cheryl Allsop yn uwch ddarlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ymchwiliadau achosion oer, ymchwiliadau unigolion coll, pobl sy'n agored i niwed sydd ar goll, llofruddiaethau lle nad oes corff a gweddillion anhysbys. Mae hi'n arwain Prosiect Innocence PDC ac Academi Achosion Oer PDC, gan weithio gyda theuluoedd y rhai sydd ar goll ac ar eu rhan.
Mae Dr Helen Jones yn Gymrawd Ymchwil mewn Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn hyn, bu'n gweithio i Heddlu Swydd Gaerlŷr, gan adolygu dynladdiadau heb eu canfod, trais rhywiol gan ddieithryn a phobl sydd ar goll am gyfnod hir. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys dynladdiad, ymchwilio i droseddau mawr a phlismona, gan ganolbwyntio ar ddulliau ymchwil ansoddol.
19-09-2022
18-07-2022
01-07-2022
26-05-2022
09-05-2022
02-02-2022
01-02-2022