01-02-2022
Yr Athro Fiona Brookman
Yr wythnos hon, cynhaliwyd lansiad llyfr swyddogol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) i ddathlu rhyddhau’r llyfr ‘Understanding Homicide’, (ail argraffiad) gan Fiona Brookman, Athro Troseddeg.
Ysgrifennodd Fiona y rhifyn gwreiddiol o’r llyfr oherwydd nad oedd llyfr academaidd a oedd yn ymdrin â’r ystod o bynciau yr oedd yn eu haddysgu yn ei modiwl ‘Deall Dynladdiad’ i fyfyrwyr Troseddeg.
Meddai: “Roedd y rhifyn cyntaf yn tynnu ar ymchwil o fy PhD, yn fwyaf nodedig cyfweliadau â llofruddwyr a dadansoddi ffeiliau llofruddiaeth yr heddlu. Rhyw 12 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl i Sage ofyn i mi droeon i ystyried ysgrifennu ail rifyn, dechreuais weithio arno o'r diwedd. Cymerodd amser hir iawn gan fy mod mor brysur gyda gwaith ymchwil arall ac wrth gwrs yn addysgu a goruchwylio myfyrwyr.
Mae'r llyfr hwn yn elwa o'r holl waith casglu data ac ymchwil yr wyf wedi bod yn ymwneud ag ef ers ysgrifennu'r cyntaf. Mae hyn yn cynnwys fy ffocws i o ymchwil yn gyfan gwbl ar droseddwyr dynladdiad, i ymchwil ar sut mae’r heddlu, gwyddonwyr fforensig, ac eraill yn ymchwilio i ddynladdiad a sut y mae’n cael ei ddyfarnu yn y llys.”
Yn yr ymchwil cyntaf o'i fath, treuliodd Fiona oriau maith yn cyfweld â ditectifs ac arbenigwyr fforensig a digidol, ond y rhan fwyaf dadlennol oedd cysgodi ditectifs wrth eu gwaith trwy ymchwiliadau cyfan, o leoliad trosedd i'r llys:
“Mae fy ymchwil yn cynnwys gwaith maes yma ac yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â chyfweliadau gyda dros 120 o droseddwyr treisgar yn y DU, gan gynnwys 30 o fenywod. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gasglu a dadansoddi data gan droseddwyr a’r rhai yn y system cyfiawnder troseddol sy’n ymchwilio i’w troseddau” meddai.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea, Tîm Ymchwilio Troseddau Mawr Heddlu De Cymru: "Bydd ymchwil fanwl Fiona i’r hyn sy’n gyrru dynladdiad a'r dulliau mae'r heddlu'n eu defnyddio i ganfod troseddwyr o ddiddordeb i academyddion ac ymarferwyr fel ei gilydd."
"Mae ei mewnwelediad i ymarfer fforensig digidol a theledu cylch cyfyng wedi cefnogi penderfyniadau cynllunio strategol o fewn heddluoedd o ran ble i fuddsoddi adnoddau ymchwilio, i greu'r Adrannau Ymchwilio i Ddynladdiad mwyaf effeithlon. Byddwn yn argymell ei hymchwil i Uwch Swyddogion Ymchwilio’r heddlu ac i ymchwilwyr academaidd ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwiliadau modern i ddynladdiad."
Mae Fiona yn gynghorydd arbenigol i Grŵp Troseddu a Phlismona’r Swyddfa Gartref ac yn aelod o’r grwpiau canlynol:
• Canolfan Troseddeg PDC
• Prosiect Effaith Fforensig y Swyddfa Gartref
• Gweithgor CCTV Cenedlaethol
• Gweithgor Ymchwil Fforensig Trawsnewid (Digidol) Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu
Mae ‘Understanding Homicide’ ar gael gan Sage Publishing.
19-09-2022
18-07-2022
01-07-2022
26-05-2022
09-05-2022
02-02-2022
01-02-2022