26-05-2022
Mae papurnewydd sy'n archwilio urddas yng nghyd-destun pobl wedi'u dadleoli ym Mangladesh ac Affganistan wedi'i gyhoeddi heddiw yn Third World Quarterly.
Ysgrifennwyd y papur gan Dr Palash Kamruzzaman (Canolfan Polisi Cymdeithasol) a'i gyd-ysgrifennu gan yr Athro Kate Williams; yr Athro Ali Wardak (Canolfan Troseddeg) Dr Mohammad Ehsanul Kabir; a Dr Yaseen Ayobi
Mae'n canolbwyntio ar ddeall sut mae pobl wedi'u dadleoli yn gweld urddas. Wrth wneud hynny, mae tystiolaeth empirig o'r Rohingyas o Myanmar sydd wedi'u dadleoli, sydd bellach yn byw mewn gwersylloedd Bangladeshaidd, a phobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (IDPs) yn Affganistan yn cael eu cyferbynnu â'r ffordd y mae urddas yn cael ei gysyniadu mewn llenyddiaeth gwyddor gymdeithasol bresennol.
"Yn y rhan fwyaf o fodelau neu ddamcaniaethau urddas traddodiadol, mae profiad byw rhywun yn absennol, yn cael ei anwybyddu neu ei ragdybio gan y damcaniaethwr," meddai Dr Kamruzzaman.
"Mae'r papur hwn yn dangos bod y dulliau cyffredin a thraddodiadol sy'n anwybyddu pwysigrwydd, profiad a chanfyddiad urddas (a’i cholli) o safbwynt y grŵp 'dioddefwr', i bob pwrpas, yn cymryd rhan mewn gweithred o wadu – gan osod barn a phersbectif y pwerus ar brofiad y rhai sy'n agored i niwed, gan wadu eu llais."
Cyflwynir Rohingyas ym Mangladesh ac IDPs yn Affganistan fel dwy astudiaeth achos ddiddorol o ran deall ac ailedrych ar gysyniadau presennol urddas drwy ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny.
Mae dadleuon a gyflwynir yn y papur hwn yn ein galluogi i weld urddas drwy lens y bobl yr effeithir arnynt, sy'n agored i niwed ac sydd wedi'u herlid. Dadleuir, ar gyfer penderfyniadau effeithiol a chynaliadwy i'r grwpiau hyn sy'n agored i niwed, y gall barn o'r fath hysbysu llunwyr polisi cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol, gan ganiatáu iddynt ddod yn ymwybodol o urddas o safbwynt y bobl sydd wedi'u dadleoli.
19-09-2022
18-07-2022
01-07-2022
26-05-2022
09-05-2022
02-02-2022
01-02-2022