Wedi'i leoli o fewn y Ganolfan Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru, ffurfiwyd y Grŵp Ymchwil Defnydd Sylweddau (SURG) yn 2019 i gynnal ymchwil o ansawdd uchel i'r defnydd o gyffuriau ac alcohol.
Dan arweiniad yr Athro Katy Holloway, mae’r grŵp yn cynnwys ymchwilwyr academaidd (gan gynnwys yr Athro Emeritws Trevor Bennett, yr Athro Ali Wardak, yr Athro Kate Williams, Dr Sophie Chambers, Dr Marian Buhociu a Sharmila Kumar) sy’n arbenigo mewn materion cyfredol a materion sy’n dod i’r amlwg ym maes defnyddio sylweddau. megis: ymyriadau lleihau niwed, cynhyrchu a chyflenwi cyffuriau, ymatebion cyfiawnder troseddol, defnyddio sylweddau ymhlith myfyrwyr prifysgol, defnyddwyr heroin 'sy'n gwrthsefyll triniaeth', a gweithredu polisi camddefnyddio sylweddau.
Mae aelodau SURG yn mwynhau perthnasoedd cydweithredol cryf ag ystod eang o staff sy’n gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr academaidd mewn sefydliadau eraill yn ogystal â chydweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau’r trydydd sector. Mae aelodau SURG yn darparu cymorth ymchwil a chyngor i gonsortiwm DIGDDAS (Dyfodol, Iris, Gwent, Dyfed - Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol) ac yn eistedd ar Fwrdd Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Atal Gwenwyno Cyffuriau Llywodraeth Cymru. Maent yn gweithio ochr yn ochr â Kaleidoscope i oruchwylio myfyriwr PhD a ariennir gan KESS (Sharmila Kumar) a chydweithio â Barod i ddatblygu a gwerthuso gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth pwrpasol ar gamddefnyddio sylweddau ar gyfer myfyrwyr prifysgol.
Ym mis Mawrth 2021 ehangodd SURG trwy benodi dau Athro Gwadd: Dr Rhian Hills a Dr Jan Melichar. Cwblhaodd Rhian ei PhD yn PDC ac mae bellach yn Uwch Reolwr Polisi Cyffuriau yn Llywodraeth Cymru, tra bod Jan yn Seiciatrydd Ymgynghorol yn yr Uned Dibyniaeth Gymunedol yng Nghaerdydd.
Mae gan y grŵp hanes hir o sicrhau cyllid mewnol ac allanol ar gyfer ymchwil camddefnyddio sylweddau gan y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, a chan ddarparwyr triniaethau trydydd sector. Mae eu hymchwil wedi cynhyrchu amrywiaeth o gyhoeddiadau o ansawdd uchel gan gynnwys llyfrau, erthyglau cyfnodolion ac adroddiadau swyddogol sydd wedi helpu i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth ar amrywiaeth o faterion defnyddio sylweddau.
Mae aelodau SURG ar hyn o bryd yn ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau a ariennir yn allanol. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau sy’n ymchwilio i:
19-09-2022
18-07-2022
01-07-2022
26-05-2022
09-05-2022
02-02-2022
01-02-2022
03-01-2022
Caroline Phipps, Prif Weithredwr, Barod
Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW
Dr Tom May
Cymrawd Ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Llundain
Andrew Misell
Cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK
Dr Wulf Livingston
Darllenydd mewn Gwyddor Gymdeithasol Prifysgol Glyndŵr
Dr James Morgan
Prifysgol Fetropolitan Llundain
Rob Barker
Ymgyrchoedd a Chyfathrebu, Barod
Sian Chicken
Pennaeth Gweithrediadau (Gwent) Kaleidoscope
Elwyn Thomas
Gweithiwr Allweddol Clinigol - GDAS